Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 3 Hydref 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
13:15 - 15:27 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Christine Chapman Mike Hedges Julie Morgan Jenny Rathbone Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Stephen Lisle, Swyddfa Archwilio Cymru Dave Thomas, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Fay Buckle (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sandy Mewies. Roedd Christine Chapman yn dirprwyo ar ei rhan. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Jocelyn Davies.
2 Gofal heb ei drefnu: sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru
2.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gyda Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Gofal Heb ei Drefnu'. Daeth Dave Thomas a Stephen Lisle i'r cyfarfod gyda'r Archwilydd Cyffredinol. Yn ystod y sesiwn friffio, cafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Nodwyd y papurau.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Gofal heb ei drefnu: Trafodaeth yr Aelodau ar y materion a godwyd yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru
5.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i ofal heb ei drefnu. Yn benodol, cytunodd yr Aelodau i ganolbwyntio ar ofal sylfaenol lleol, gan gynnwys:
· rôl meddygon teulu o ran darparu gofal heb ei drefnu
· natur contractau meddygon teulu a'u heffaith ar ofal heb ei drefnu
· darpariaeth y tu allan i oriau
· y gwasanaeth '111'
· y grwpiau sy'n defnyddio gwasanaethau gofal heb ei drefnu yn aml
· cynlluniau ar gyfer darparu gofal heb ei drefnu mewn modd cynaliadwy yn y dyfodol
Cam i'w gymryd:
Y clercod, ynghŷd â Swyddfa Archwilio Cymru, i baratoi papur cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad.
6 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Trafodaeth yr Aelodau ar yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru
6.1 Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth a gafwyd gan y Llywodraeth, a chytunasant i ysgrifennu at y Llywodraeth, gan godi'r materion a ganlyn:
· Seilwaith TG mewn perthynas ag e-ddysgu
· Cyfranogiad mewn perthynas â phecynnau dysgu ar-lein
· Gwastraff bwyd mewn ysbytai
· Sut y mae sticeri sgorio hylendid bwyd yn cael eu harddangos mewn ysbytai
7 Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011: Trafodaeth yr Aelodau ar yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru
7.1 Mynegodd yr Aelodau siom ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru, ond teimla'r Aelodau y byddai'n fuddiol rhannu'r ohebiaeth honno gyda'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
8 Buddsoddiad Cyfalaf mewn Ysgolion: Trafodaeth yr Aelodau ar yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru
8.1 Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth a gafwyd gan y Llywodraeth, a chytunasant i ysgrifennu at y Llywodraeth, i ofyn am eglurhâd ynghylch y materion a ganlyn:
Y sail rhesymegol ar gyfer penderfynu pa ysgolion yng nghategori C sy'n cael eu dewis ar gyfer y buddsoddiad cyntaf o dan y rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, a rhestr o'r ysgolion hyn
Diffiniad o'r term 'addas i'r diben'
Y dull a ddefnyddir i archwilio ysgolion am asbestos
9 Safon Ansawdd Tai Cymru: Trafodaeth yr Aelodau ar yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru
9.1 Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth a gafwyd gan y Llywodraeth. Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol wrth y Pwyllgor fod ei swyddfa yn bwriadu gwneud gwaith yn y maes hwn yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol.
10 Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg: Trafodaeth yr Aelodau ar yr adroddiad drafft
10.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunasant y byddent yn cytuno ar fersiwn derfynol drwy gyfnewid negeseuon e-bost.